Senedd Cymru | Welsh Parliament
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith | Climate Change, Environment and Infrastructure Committee
Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus | Decarbonising the public sector
Ymateb gan Chwaraeon Cymru | Evidence from Sport Wales
Gan adeiladu ar waith Archwilio Cymru, hoffai’r Pwyllgor gael barn am y canlynol:
Mae'r pum cais am weithredu i sefydliadau unigol eu hystyried. Bydd angen i Lywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, ystyried sut mae’r rhain yn berthnasol iddi hi fel sefydliad, gan gynnwys ei gwasanaethau, ei chyfleusterau a’i phobl. O ran ei rôl yn cefnogi cyrff cyhoeddus, bydd yn amrywio o gefnogi cydweithredu ar draws cyrff cyhoeddus, ac rydym wedi gweld arwyddion cynnar a chadarnhaol o hyn yn digwydd. Bydd rôl o ran cymorth ariannol ar gyfer y newidiadau sydd eu hangen, yn ogystal â phroses atebolrwydd yn naturiol lle mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar gynnydd yn erbyn disgwyliadau llythyrau cylch gwaith i Lywodraeth Cymru.
Hyd yma mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru o ran darparu arbenigedd a mewnbwn o fewn yr agenda datgarboneiddio wedi bod yn gadarnhaol. Rydym wedi gweithio’n dda gyda Llywodraeth Cymru ar y meysydd allweddol canlynol: -
• Datblygu a chyllido ffynonellau ynni adnewyddadwy ynni effeithlon yn ein canolfannau cenedlaethol drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru;
• Cefnogi datgarboneiddio'r sector chwaraeon drwy fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer prosiectau cyfalaf sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd; a
• Prosesau adrodd ar garbon blynyddol.
Yn naturiol, mae pryder ynghylch heriau arian cyhoeddus yn y dyfodol ac am faint y gall y lefel hon o waith barhau, ond rydym yn parhau i gynnal trafodaethau cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru, a chydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus, i gefnogi’r angen hwn am newid.
Mae cyrff cyhoeddus yn wynebu costau cynyddol a llai o gyllid. Bydd hyn yn ei gwneud yn anodd cyflawni yn erbyn rhai o argymhellion Archwilio Cymru.
Mae cynyddu sgiliau a gallu ym maes datgarboneiddio yn debygol o fod yn heriol. Fel y nodwyd yn argymhellion Archwilio Cymru, mae'r sgiliau hyn yn arbenigol ac yn brin. Gallai Llywodraeth Cymru gefnogi cyrff cyhoeddus drwy ddull canolog mwy cydlynol a chydweithredol o weithredu gan nodi’r bylchau sgiliau a gweithredu yn eu cylch.
Yng nghyd-destun gostyngiad mewn termau real yn y gyllideb yn ystod y flwyddyn gyfredol, ansicrwydd ynghylch cyllidebau’r dyfodol a chyfran uchel o gostau sefydlog, mae’n anodd neilltuo cyllid refeniw i ddatgarboneiddio.
Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi’r uchelgais a chynaliadwyedd ac mae datgarboneiddio yn un o flaenoriaethau ein cynllun busnes sefydliadol ni. Mae'r map llwybr yn ddefnyddiol wrth amlinellu dyheadau lefel uchel. Mae’r map llwybr hefyd yn glir nad oes bwriad i nodi ‘sut’, ‘pwy’ na chamau gweithredu i gyflawni’r cerrig milltir ond byddai’r lefel hon o fanylder a chymorth yn ddefnyddiol i gefnogi cyrff cyhoeddus.
Bydd angen llawer mwy o gydweithio i gyflawni'r dyheadau gan nad yw sefydliadau ar eu pen eu hunain yn gallu cyflawni agweddau sylweddol ar y map llwybr. Er enghraifft, mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi’r angen am gynyddu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus wrth gymudo i’r gwaith (ac i wylwyr wrth fynychu digwyddiadau yn ein canolfannau cenedlaethol) ond mae’n dibynnu ar rwydweithiau trafnidiaeth lleol.
Ychydig iawn o amlygrwydd a fu o ran y canllawiau caffael, yr adnoddau a’r hyfforddiant (y cyfeirir atynt yn y cam newid gêr) a fyddai’n helpu i ymgorffori gostyngiadau carbon mewn caffael. O ystyried bod allyriadau cwmpas 3 sy’n ymwneud â phrynu nwyddau a gwasanaethau yn debygol o ffurfio cyfran sylweddol o allyriadau’r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus, byddai rhagor o waith i fanylu ar ‘sut’ yn ddefnyddiol.
Yn gyffredinol, bu rhywfaint o weithgarwch cadarnhaol, a gwelwyd bod hyn wedi’i ddatblygu ar y cyd â Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill.
Yr her i Chwaraeon Cymru, a chyrff cyhoeddus eraill, yw nid yn unig gwneud y newid gofynnol fel corff cyhoeddus ond hefyd cefnogi hynny i fod yn ymrwymiad sector cyfan. Mae rhai o'r ymrwymiadau rydym yn eu gwneud ar hyn o bryd fel a ganlyn:
• Cwblhau a lansio'r Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol a datblygu cynllun gweithredu mewn ymateb i hyn.
• Datblygu neu gyfeirio arweiniad ar gyfer y sector.
• Parhau i flaenoriaethu ein buddsoddiad cyfalaf ar gyfer prosiectau sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.
• Gosod y pwynt gwefru cerbydau trydan a phrynu rhagor o gerbydau trydan i adeiladu ar rai o'r buddsoddiadau ynni effeithlon presennol rydym wedi'u gwneud.
• Cynyddu ymwybyddiaeth o'r camau unigol y gall staff, a'r sefydliad, eu rhoi ar waith, gan ddathlu llwyddiannau Chwaraeon Cymru a'n rhwydwaith o bartneriaid drwy astudiaethau achos.
• Ymgorffori cynaliadwyedd yn ein prosesau caffael.
Mae'n debygol y bydd amrywiaeth sylweddol yn y cynnydd yn erbyn y themâu allweddol ar draws y sector cyhoeddus. Mae cyfleoedd i rannu dysg, gwybodaeth a phrofiad gan y sefydliadau hynny sydd wedi datblygu mwy ar ddatgarboneiddio. Mae’n debygol hefyd y bydd cyfleoedd cydweithredol mewn meysydd fel arferion a phrosesau caffael y gellid eu harwain yn ganolog gan Lywodraeth Cymru a’u cymhwyso’n gyson ar draws y sector cyhoeddus.
Mae’r ymrwymiad ariannol ar gyfer y buddsoddiad cyfalaf y mae Chwaraeon Cymru wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi ein newidiadau sefydliadol ein hunain ac i ysgogi’r newidiadau hynny yn y sector, i’w groesawu’n fawr. Rydym hefyd wedi cael mewnbwn gan arbenigwyr yn Llywodraeth Cymru i gydweithio ar rai o’r newidiadau cynnar rydym wedi bod yn eu rhoi ar waith. Mae hyn wedi helpu'r cynnydd hyd yma.
Mae cyfleoedd pellach i Lywodraeth Cymru gefnogi’r gwaith o gyflawni cynnydd fel a ganlyn:-
• Rhaglen a arweinir yn ganolog i sefydlu arferion caffael cynaliadwy o fewn cyrff cyhoeddus, gan ymgorffori carbon isel neu garbon sero yn y broses o wneud penderfyniadau (gan gynnwys adnoddau a thempledi)
• Cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru i nodi / cyfrifo effaith carbon eu nwyddau neu wasanaethau, gan sicrhau eu bod yn gystadleuol pan fydd caffael cynaliadwy yn cael ei ymgorffori ym mhrosesau'r sector cyhoeddus
• Sefydlu cymunedau ymarfer neu gyfleoedd dysgu a rennir (Cymru a thu hwnt) yn y meysydd ffocws allweddol
• Cefnogi datblygu achosion busnes ar gyfer adeiladau sector cyhoeddus newydd sy'n rhoi pwyslais ar werth carbon yn hytrach nag achos busnes economaidd pur.
Byddai’n ddefnyddiol amlinellu’r cyllid sydd ar gael i gefnogi cyrff cyhoeddus gyda chamau gweithredu newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn credu ei bod yn werth edrych ar y rôl y gallai’r sector cyhoeddus ei chwarae mewn gwrthbwyso carbon mewn ffordd gyfrifol. Mae'r agwedd hon ar yr agenda cynaliadwyedd yn debygol o fod yn ofyniad cynyddol bwysig yn y dyfodol ac os caiff ei datblygu ar draws partneriaethau mewn ffordd flaengar, gallai arwain at atebion gwell y tu hwnt i atebion tymor byr.